Evans ac Ott Tanak oedd dau yrrwr y tîm yn ystod y Bencampwriaeth eleni, gyda'r gŵr o Ddolgellau yn gorffen yn seithfed ar ôl dod yn wythfed yn ei dymor cyntaf llynedd.
Ond mae M-Sport bellach wedi cadarnhau mai Mads Ostberg ac Eric Camilli fydd eu dau yrrwr nhw ar gyfer y tymor nesaf.
Cynnig arall?
Mae'n golygu y bydd yn rhaid aros i weld a gaiff Elfyn Evans gynnig i yrru gyda thîm arall cyn y Bencampwriaeth y flwyddyn nesaf.
Awgrymodd y gyrrwr 26 oed wrth Golwg mewn cyfweliad diweddar y byddai diwedd y tymor yn gyfle iddo yntau ailasesu a fyddai eisiau parhau ag M-Sport.
Mae'n debyg bod M-Sport yn parhau mewn trafodaethau ag Elfyn Evans i weld a allai gyfrannu at y tîm mewn rhyw ffordd y flwyddyn nesaf.
Ond mae'n bosib y bydd y gyrrwr, sydd yn fab i gyn-bencampwr ralio Prydain Gwyndaf Evans, yn penderfynu symud at dîm arall yn 2016.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?