Bydd Tîm Rali'r Byd M - Sport yn rhedeg dau Ford Fiesta R5 Evos yn Rali Sweden gydag Elfyn Evans ac Eyvind Brynildsen wrth y llyw yng nghystadleuaeth ail haenen y Bencampwriaeth Byd.
Yng nghategori WRC 2, bydd y par M-Sport yn ymuno â llu o yrwyr Fiesta. Bydd y gyfres yn cynnwys 56% o geir y 'Blue Oval' ac mi fydd Evans a Brynildsen ymhlith dim llai na 14 Fiesta R5s ar eu newydd wedd.
Gwnaeth y Fiesta RS Evo ei ymddangosiad cyntaf WRC mewn debut gwych yn ystod y rali ddiwethaf, Rallye Monte-Carlo a, gyda Evans a chyd-yrrwr Craig Parry wrth y llyw, nhw oedd y tîm i guro.
Er gwaethaf dau bwnctiar ar wahân a gostiodd y Cymro ryw dri munud i'r blaen, ni allai hynny ei amddifadu o fuddugoliaeth yn y WRC2 - gan ennill o ddau funud glir o Esapekka Lappi.
Ond mae prawf mwyaf Evans eto i ddod. Mae ond wedi cael ei herio gan ddau rali eira yn ei yrfa, bydd y Cymro yn mynd benben â'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arbenigwyr ar yr eira a rhew yn Rali Sweden.
Ymhlith prif gystadleuwyr Evans mae'r gyrrwr Skoda - Lappi a'r arwr lleol Pontus Tidemand. Bydd y gystadleuaeth yn anodd, ond bydd Evans yn edrych i ddefnyddio ei holl brofiad - heb sôn am gyriannau helaeth newydd y Fiesta - i herio ar gyfer y safleoedd uchaf.
Dywedodd Elfyn Evans
'Rwy'n teimlo'n dda iawn wrth fynd mewn i'r digwyddiad hwn ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl y tu ôl i'r olwyn.
Mae Sweden bob amser yn un anodd gan fy mod i wedi gwneud dim ond dwy rali eira erioed, ond dwi yn ei mwynhau ac rwy'n credu ein bod wedi dangos rhywfaint o gyflymder da yno y llynedd.
'Yr anhawster yw cyrraedd cyflymder o'r cychwyn cyntaf, ond rwy'n credu y bydd y profiad a gafwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn caniatáu imi wneud hynny. Byddwn hefyd yn cael prawf o ddydd Llun i ddod i arfer â theimlad y Fiesta R5 Evo'
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?