Mae'r gyrrwr rali Elfyn Evans wedi dod yn ail yn y Tour de Corse, sef cymal Ffrainc o Bencampwriaeth Ralïo FIA y Byd. Dyma'r safle uchaf i'r Cymro ei gyrraedd yn ystod ei yrfa hyd yn hyn.
Yn gynharach yn y tymor daeth Elfyn Evans, sy'n 26 oed ac yn dod o Ddolgellau, yn drydydd yn y cymal yn yr Ariannin wrth yrru ei Fiesta RS M-Sport.
Mae'r Cymro nawr gam yn agosach at ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd, wedi iddo ddod yn ail i Jari-Matti Latvala o'r Ffindir oedd yn gyrru VW Polo R yng Nghorsica.
Y canlyniad diweddaraf yw'r un gorau erioed i unrhyw Gymro yn y gystadleuaeth. Roedd Evans wedi dod yn drydydd yn y cymal yn ne America, ac mae ei ganlyniad yn well na chanlyniadau'r gyrrwr Tom Price, y cawr o Ddyffryn Clwyd, ddaeth yn drydydd ddwywaith yng nghystadleuaeth Grand Prix Fformiwla 1 yn y 70au.
Ffyrdd mynyddig
Wedi tridiau o yrru ar hyd ffyrdd troellog a mynyddig Corsica, daeth Evans a'i gyd-yrrwr Daniel Barritt 43.1 eiliad ar ôl Jari-Matti Latvala, a dim ond 3.2 eiliad o flaen Andreas Mikkelsen ddaeth yn drydydd.
Llwyddodd y Cymro i oroesi mewn amgylchiadau anodd gyda thywydd gwael iawn yn gwneud y daith yn anoddach wrth i law trwm droi'r llwybr yn llithrig iawn i yrru arno.
Yn dilyn y fuddugoliaeth dywedodd y Cymro: "Mae'n deg dweud fod hon wedi bod yn dipyn o wythnos i chwaraeon Cymru.
"Mae gweld tîm rygbi Cymru yn gwneud mor dda, ac yna fy nghanlyniad i yma, yn gamp anhygoel ac rwy'n gobeithio fod y bechgyn nôl adre yn falch ohona i.
"Yn amlwg rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad. A diolch i bawb am anfon eu negeseuon o gefnogaeth. Tydw i heb eu darllen i gyd eto, ond yn sicr fe fydda'i dod o hyd i amser i wneud hynny!"
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?