S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rali Cymru GB

Bydd rownd derfynol Prydain o Bencampwriaeth Rali'r Byd FIA sy'n crwydro'r byd yn digwydd rhwng 12-15 Tachwedd.

Fel y llynedd, bydd y Parc Gwasanaeth Rali prysur, lle mae'r 160 o dimau yn seiliedig, wedi'i leoli wrth ochr y ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hyn yn cynnig mynediad am ddim i unrhyw un sydd eisiau cyfarfod y sêr a gweld y ceir, fel bydd y nos Iau ar Stryd Mostyn yn Llandudno pan fydd y rali yn cychwyn.

Mae coedwigoedd chwedlonol Cymru'n barod i groesawu yr 13eg a'r rownd derfynol.

Mae'n cynnwys 19 o gymalau arbennig cystadleuol - cyfanswm o 193 milltir - pob un yn cael eu rhedeg yn erbyn y cloc ar gymysgedd heriol o lonydd coedwig graeanllyd traddodiadol a ffyrdd parcdir.

Ar ôl Seremoni Agoriadol drawiadol ar Stryd Mostyn, Llandudno nos Iau, mae'r criwiau eofn yn wynebu marathon o gymal yng nghanolbarth Cymru ddydd Gwener. Mae ralïo'r penwythnos yn agosach at Barc Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy ac yn cynnwys y RallyFest poblogaidd yng Nghastell y Waun ac mae'r Gogarth eiconig yn ei ôl ddydd Sul. Bydd yr enillwyr yn cael eu coroni o flaen y timau a'r cefnogwyr yn ôl yng nghanolbwynt y rali ar Lannau Dyfrdwy brynhawn ddydd Sul.

Ar ben rhestr y rhai sy'n cystadlu mae Pencampwr Byd 2013, 2014 a 2015, Sébastien Ogier. Ac yntau newydd gipio'r teitlau deirgwaith yn olynol, y Ffrancwr dawnus 31 mlwydd oed fydd yr un i'w drechu mewn gornest y mae wedi'i hennill am y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid Ogier, er hynny, yw'r unig gyn-enillydd sy'n targedu mwy o lwyddiant. Mae'i gyd-aelod yn nhîm Volkswagen Motorsport, Jari-Matti Latvala wedi codi'r Tlws.

Nid oes yr un gyrrwr Prydeinig wedi ennill yr ornest ers i'r diweddar Richard Burns gwblhau tair buddugoliaeth yn olynol yn ôl yn 2000 ond, gydag Elfyn Evans a Kris Meeke ymhlith ceffylau blaen y tymor hwn, efallai nad yw llwyddiant cartref enwog arall mor bell â hynny i ffwrdd. Enillodd Meeke yn yr Ariannin a gorffennodd Evans yn ail yn fwy diweddar yng Nghorsica.

Yn ychwanegu at y gystadleuaeth, mae gan Hyundai Motorsport dîm o bedwar car yn cystadlu ac mae ynghlo mewn brwydr gyda thîm Citroen Total Abu Dhabi WRT Meeke am yr ail safle y tu ôl i'r VW Motorsport hollfuddugol ym Mhencampwriaeth y Gwneuthurwyr. Mae'r cyn-seren F1, Robert Kubica yn un arall i'w wylio.

Yn dilyn poblogrwydd enfawr ralïau diweddar yng ngogledd Cymru, mae pob ymdrech wedi'i wneud i gynyddu'r lle yn y meysydd parcio ac i wella'r profiad i'r gwylwyr ymlaen llaw i ddiweddglo'r tymor yr wythnos nesaf. Unwaith eto, bydd y rali'n ymfalchïo yn ei gorsaf radio FM Rali Cymru un pwrpas ei hun ar 87.7FM yn ogystal â lluniau teledu ar sgrin fawr - gyda Steve Rider yn angori - gyda'r ralïo'n fyw yn y mannau allweddol.

"Mae'r cyffro'n cynyddu o ddifrif tuag at rali'r wythnos nesaf," cadarnhaodd Ben Taylor, Rheolwr-Gyfarwyddwr Rali Cymru GB. "Mae gennym 19 o'r cymalau rali gorau yn y byd, rhestr gystadleuwyr lawn gyda gyrwyr gorau'r byd ac rydym yn disgwyl tyrfaoedd enfawr.

"Yn well byth, mae gennym obeithion gwirioneddol o ganlyniad Prydeinig cryf, ar ôl perfformiadau Kris ac Elfyn eleni. Byddwn yn sefydlu Petter Solberg yn 'Oriel yr Anfarwolion' hefyd ac yn dathlu 20 mlynedd ers buddugoliaeth teitl WRC Colin McRae. Gyda'i gilydd mae'n golygu rali pencampwriaeth byd na ddylid ei methu ar unrhyw gyfrif."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?