S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rali Cymru GB

Dyddiau'n unig sydd ar ôl cyn i gyffro byrlymus Pencampwriaeth Rali'r Byd FIA ddychwelyd i Landudno.

Bydd yr holl sêr - gan gynnwys Sébastien Ogier sydd newydd ei goroni'n Bencampwr Rali'r Byd 2015 a'r arwr lleol Elfyn Evans - yn dod I Landudno yn gyntaf ar bnawn dydd Iau ar gyfer y sesiwn lofnodi swyddogol cyn y rali (ac nawr, wrth gwrs, y sesiwn hunluniau) yn Venue Cymru.

Bydd y sylw wedyn yn troi at Stryd Mostyn yn fuan gyda'r hwyr ar gyfer Seremoni Agoriadol trawiadol y Rali. Fel rhan o hyn bydd sioe syfrdanol gan Spark! gyda drymwyr LED, adloniant sgrin fawr a chyfweliadau llwyfan gyda'r gyrwyr. Am ffordd gwerth chweil o anfon y cystadleuwyr ar eu taith.

Bydd dydd Gwener a dydd Sadwrn yn eich cadw ar flaen eich sedd gyda'r gyrwyr yn gwibio gan fwyaf drwy goedwigoedd chwedlonol y canolbarth gan ddychwelyd wedyn ar y Sul i Sir Gonwy i weld y digwyddiad yn cyrraedd ei benllanw.Wrth i'r frwydr ddechrau poethi bydd dydd Sul yn dechrau gyda dwy sesiwn wedi eu hamseru o gwmpas cronfeydd d?r trawiadol Llyn Alwen a Llyn Brenig. Bydd y ceir yna'n dychwelyd i Landudno ac yn taranu o amgylch y Gogarth, lleoliad nad oedd yn rhan o Rali Cymru Prydain Fawr llynedd. Mae'r Gogarth yn un o gymalau mwyaf eiconig y byd ralïo ac yn olygfa na ddylai unrhyw gefnogwr chwaraeon ei golli.

Ar ôl cwblhau cymal y Gogarth bydd y gyrwyr yn ailymgynnull yn syth yng nghanol Llandudno am 25 munud i gael eu gwynt atyn nhw cyn dychwelyd i'r Brenig ar gyfer diweddglo mawreddog y Cymal Cyffro.

Fel gyda'r agoriad, bydd modd i'r gwylwyr weld y ceir yn ymgynnull yn rhad ac am ddim. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, bydd y sgrîn fawr yn dychwelyd fore Sul lle bydd modd gwylio bwrlwm y cymalau'n fyw.

Bydd arddangosfa hefyd o geir rali hanesyddol gan glwb Slowly Sideways a channoedd o geir ar y Promenâd wrth i aelodau'r wefan hynod boblogaidd pistonheads.com ddod i'r dref ar gyfer eu gwasanaeth dydd Sul.

RALI CYMRU PRYDAIN FAWR - AMSERLEN SIR GONWY

Dydd Iau y 12fed o Dachwedd17:00-17:30 Sesiwn Lofnodi, Venue Cymru (ciwio'n dechrau am 16:00)18:00-18:30 Sioe cyn y Seremoni Ddechreuol, Stryd Mostyn18:30-20:30 Seremoni Ddechreuol Rali Cymru Prydain Fawr

Dydd Sul y 15fed o Dachwedd (amseroedd bras)08:26-10.00 Cymal Arbennig Brenig 108:52-13.00 Cymal Arbennig Alwen10:20-14.00 Cymal Arbennig Y Gogarth10:30-14:30 Ailymgynnull ar Stryd Mostyn, Llandudno12:08-16.00 Cymal Arbennig Brenig 1 (Y Cymal Cyffro)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?