Sicrhaodd Sebastien Ogier ei drydydd Pencampwriaeth Rali'r Byd yn olynol gyda buddugoliaeth yn Rali Awstralia.
Dyma oedd y seithfed buddugoliaeth o'r tymor i Ogier ac ar ffyrdd graean y wlad a dros dri diwrnod yn Ne New South Wales fe gurodd ei bartner yn nhîm Volkswagen Polo R Jari-Matti Latvala o 12.3 eiliad.
Dywedodd y Ffrancwr 31-mlwydd-oed: "Mae'n dymor anhygoel, y gorau i mi ei wneud erioed."
Mae Ogier yn ymuno â chlwb egsliwsif o yrwyr sydd wedi ennill teitlau Byd fwy na thair gwaith - Sebastien Loeb (naw gwaith), Juha Kankkunen a Tommi Makinen (y ddau bedwar gwaith).
Fe wnaeth 1-2 Volkswagen yn Awstralia sicrhau goron y gwneuthurwyr am y trydydd tro.
Enillodd Ogier y saith cymal terfynol i gymryd buddugoliaeth yn Awstralia, gan ddisodli Kris Meeke o'r brig, ar ôl i'r gwr o Wlster arwain tan yr ail ddiwrnod cyn mynd ymlaen i ddod yn drydydd, fwy na hanner munud y tu ôl i'r enillydd.
Mae rownd 11 o'r bencampwriaeth yn digwydd yn Ffrainc 1-4 Hydref, a'r 13eg rownd a'r rownd derfynol, Rali Cymru GB YN cael ei chynnal Tachwedd 12-15
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?