Er gwaetha'r ffaith mai yn Rali Portiwgal wnaeth y M-Sport Fiesta RS WRC ei ymddangosiad cyntaf, roedd e'n ddigwyddiad yn un y bydd Elfyn Evans a chyd-yrrwr Daniel Barritt yn awyddus i anghofio.
Ar ôl bod yn gyson drwy gydol y tymor hyd yma yn y Bencampwriaeth, roedd hi'n argoeli'n dda iawn i'r Cymro ar y penwythnos o gystadlu - tair eiliad yn glir o Bencampwr y Byd Sebastien Ogier hanner ffordd drwy'r prawf agoriadol ddydd Gwener (C2).
Yn anffodus, nid oedd y freuddwyd i fod wrth i'r pedal sbardun - a gafodd ei brofi'n drwyadl fel rhan o'r profion ('homologation') blaenorol - ddod a'i ymdrechion i ben dim ond tri cilometr swil o ddiwedd y cymal.
Yna, fe wnaeth Elfyn gamgymeriad prin a chreu difrod i'w Fiesta RS WRC ar C8 gan ddod a'i ddydd Sadwrn (diwrnod 2) i ben.
Roedd llawer o bethau cadarnhaol i weld yn ystod y 5ed rownd, fodd bynnag. Fe orffennodd y Fiesta arall, yn nwylo Ott Tanak yn bumed a hynny yn y car newydd sbon.
Mae Elfyn bellach yn troi ei ffocws i fis nesaf ac i Rali'r Eidal lle bydd e a Dan yn awyddus i ddangos eu gwir potensial wrth olwyn car newydd M-Sport.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?