Cryfhau ei safle ar frig Pencampwriaeth Rali Ewrop wnaeth Craig Breen gyda'i drydedd fuddugoliaeth yn olynol yn y gyfres.
Er iddo orffen Rali'r Acores ar ynys Sao Miguel gyda mantais o ychydig dros funud, fe wariodd ran fwya'r rali yng nghanol brwydr ffyrnig gyda'i wrthwynebydd am y teitl Kajetan Kajetanowicz (Ford Fiesta). Ar gymal 13 fe brofodd ei bwynt pan gymerodd Breen ei fantais i dros 10 eiliad am y tro cyntaf.
Mae'r Gwyddel bellach wedi agor mantais o 14 pwynt dros ei wrthwynebydd o Wlad Pwyl.
Ar dri chymal y diwrnod olaf fe wnaeth Breen a Kajetanowicz gyfnewid amseroedd gyda'r Pwyliad yn agosau i o fewn 6.7 eiliad ar ôl C7 wrth i Breen droelli.
Fodd bynnag, fe wnaeth y Gwyddel ddominyddu'r cymalau a oedd yn weddill ar yr ail ddiwrnod i arwain o 2.3 eiliad.
Ar gymal 12 - cymal cynta'r diwrnod olaf a oedd yn niwlog trwy'r adran gyntaf, fe gollodd Breen amser ac er i Kajetanowicz gau i ond hanner eiliad wrtho, roedd Breen o hyd yn hyderus. Fe gymerodd gamau pendant ar C13 lle cafodd Kajetanowicz eto drafferth gyda theiars a syrthiodd 15.8 eiliad y tu ôl i Breen.
Ar y tri chymal olaf, gyda theiars ffres, roedd hi'n amhosib dal Breen ac erbyn y cymal olaf roedd Kajetanowicz, a oedd wedi gamblo gyda'i ddewis o deiars gwahanol i Breen, wedi setlo am yr ail safle. Fe ddechreuodd y gwr o Waterford gymal ola'r rali gyda mantais o 24.9 eiliad cyn gorffen gyda buddugoliaeth a mantais o funud a 2.1 eiliad.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?