S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Elfyn Evans yn ennill podiwm

Elfyn cyn rali

Sicrhaodd Elfyn Evans ei bodiwm cyntaf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd ar Rali'r Ariannin. Mae'n garreg filltir gwbl haeddiannol i'r gyrrwr ac mae'n nodi cam nesaf yn natblygiad Evans fel gyrrwr.

Daeth y Cymro i'r Ariannin yn benderfynol i ddangos gwelliant enfawr yn dilyn ei berfformiad ar y rali hon ddeuddeng mis yn ôl, ac yn sicr fe wnaeth gyflawni hynny. Gyda chysondeb ddi-nam a fflachiadau o gyflymder ar y cymalau, fe brofodd ef a'i gyd-yrrwr Daniel Barritt eu gwir potensial ar y penwythnos.

Ar ol arddangos ei gyflymder gyda dau 3ydd amser cyflymaf trwy'r cymalau agoriadol, fe chwaraeodd y Cymro y gêm synhwyrol. Mynodd y cwrs sy'n enwog am dorri ceir llwybr barch, ac fe rhoddodd Evans hynny drwy ddangos enghreifftiau o gryfder.

Darparodd y podiwm y ffarwel mwyaf perffaith i'r Fiesta RS WRC gwreiddiol sydd hefyd yn rhoi hwb o hyder enfawr i M-Sport gyda Rali Portiwgal o'u blaenau lle fydd y Fiesta newydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf cystadleuol.

Ymunodd Evans ag enillydd y rali Kris Meeke ar y podiwm, y tro cyntaf i ddau Brydeinwr ymddangos yno ers Rali Seland Newydd yn 2001 lle sefodd yr arwyr Colin McRae a Richard Burns ochr yn ochr gyda'i giydd.

Dywedodd Elfyn Evans:

"Mae wedi bod yn rali gyffrous gyda chymaint o ddrama felly mae'n deimlad gwych i fod wedi ei gorffen hi a hynny gyda chanlyniad mor bositif. Doedden ni ddim yn disgwyl podiwm, felly y mae, mewn gwirionedd yn deimlad gwych, dwi ddim yn credu ei fod wedi suddo i mewn eto!

"Ein cynllun oedd bod yn ofalus gan wella ar y llynedd a chael rhediad heb gamgymeriadau. Darparodd y tîm gar hollol berffaith o'r dechrau i'r diwedd, ac rydym ni yma ar ddiwedd y rali oherwydd hynny.

"Mae'n rhaid i mi ddweud llongyfarchiadau i Kris [Meeke] a Paul [Nagle] hefyd. Gwnaethant waith hollol anhygoel y penwythnos hwn. Nhw oedd y criw cyflymaf o'r dechrau gan reoli'r rali wedi hynny. Mae'n ganlyniad gwych iddyn nhw, ac yn ganlyniad gwych i ralio Prydain. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?