Roedd e'n braf i weld Rali Gogledd Cymru (yr hen Rali'r Bulldog ar ei newydd wedd) yn ol wedi cwpwl o flynyddoedd i ffwrdd o'r calendar. Mae'r rali'n dal yn cael ei drefnu gan glwb ceir Wolverhampton & South Staffordshire
Gyda nifer o gwmniau lleol yn cefnogi a bron i gant o geir wedi eu cofrestru mewn chwe Pencampwriaeth gwahanol roedd hi'n dipyn o ddigwyddiad, a'r ceir i gyd yn cystadlu dros chwe chymal yng nghoedwig Dyfi.
Cymal Gartheiniog oedd i ddechre a'r bachgen lleol Osian Pryce oedd cynta ar y ffordd. Fe fanteisiodd Osian ai gyd yrrwr Dale Furnice ar bob eiliad yn y Citroen DS3 R3 Max sydd â pheiriant newydd eleni ar gyfer Rali Portiwgal lle fyddant yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Rali Iau'r Byd fis Mai.
Ond ar gymal 1 fe fwrodd y Citroen bwll o ddwr yn galed gan ddatod piben tyrbo y car oddi ar y peiriant, a'r niwed yna i'r car yn golygu bod Osian a Dale yn gorfod hercio nol I wasanaeth. Ond yn wyrthiol fe lwyddon nhw I gadw o fewn gafael I'r flaenoriaeth yn y bedwaredd safle.
Yn y cyfamser wnaeth David Bogie a Kevin Rae gychwyn y rali gyda thri chymal cyflyma allan o dri y bore a hynny serch tagu'r peiriant a mynd oddi ar y ffordd ar gymal tri.
Teithiodd Martin Bergland a Sofie Lundmark yr holl ffordd o Sweden i gystadlu. A dyma oedd y tro cynta erioed i'r Mitsubishi Mirage R5 gael ei weld yn gystadleuol ym Mhrydain. Wnaethon nhw osod amseroedd cyflym iawn er iddynt ddiodde gyda niwl ar y sgrin gan nad oedd system gwresogi'r sgrin wedi ei roi yn y car gan fod y car mor newydd. Pumed oedden nhw wrth ddychwelyd i Ddolgellau am wasanaeth.
Roedd hwn yn datblygu mewn i thema wrth i griw arall ddiodde gyda phroblemau sgrin wrth i Luke Francis and John Roberts ddiodde gyda sychwyr sgrin y Mitsibushi yn torri. Er hynny fe gyrhaeddodd y par wasanaeth wedi tri chymal yn yr ail safle allan o bawb.
Bob Keen a Chris Brooks oedd ar stepen isa'r podiwm hanner ffordd drwy'r rali a dim syndod gan mai Focus rali'r byd oedd eu car.
Yn dilyn p'nawn tipyn sychach na'r bore, 5ed oedd Martin Berglund a Sofie Lundmark yn y Mitsibubushi Mirage.
4ydd oedd Peter Taylor ac Andrew Taylor yn y Ford Focus rali'r Byd.
Yn hapus iawn yn y trydydd safle wedi iddynt brofi'r car newydd ar y cymale garw cyn mentro i Bortiwgal oedd Osian Pryce a Dale Furnice yn y DS3 R3 MAX - nhw hefyd enillodd y dosbarth i geir gyriant dwy olwyn.
Fe ddaliodd Luke Francis a John Roberts ymlaen i'r ail safle a nhw aeth â'r pwyntiau llawn ym mhencampwriaeth Rali Pirelli MSA Cymru.
Ond y criw oedd yn arwain wedi'r bore oedd yn dal i arwain wedi'r p'nawn. David Bogie a Kevin Rae ddychwelodd I Ddolgellau yn fuddugol gyda dwy funud o fantes - ar ôl cipio pob un o chwe chymal a 44 milltir cystadleuol y diwrnod. Dyma oedd eu hail fuddugoliaeth mewn pythefnos ar ôl iddynt ennill Rali Border Counties yn yr Alban yn ddiweddar.
Yn nosbarth grwp N roedd 'na frwydr fawr rhwng Roland Llywelyn a Jamie Edwards mewn Mitsibushi a Paul Davey a Roger Allan mewn Subaru, fe wnaethon nhw frwydro drwy'r dydd ond erbyn diwedd y pnawn Llywelyn aeth a hi o 14 eiliad.
Ond brwydr fawr y rali oedd am goron ceir gyriant olwynion ol rhwng Escorts Nick Elliot ac Ieuan Rowlands.
Hefyd yn yr ornest yma oedd John Rowlands, brawd Ieuan ond doedd e ddim yn ddigon cyflym i guro'i frawd.
Roedd Meirion Evans o Beula'n mynd yn dda nes iddo lithro oddi ar y ffordd ddwy waith ar gymal 6.
Roedd y bythol wyrdd Terry Brown a Den Golding yn rhanni dros gan mlynedd o brofiad rhyngddynt ond ar ôl torri'r siafft gyriant, doedd hyd yn oed eu profiad yn ddigon i'w cadw nhw yn y cystadleuaeth.
Erbyn y cymal ola' fe ddaliodd Nick Elliot Ieuan Rowlands yn cysgu. Fe aeth Ieuan i mewn i'r cymal yn meddwl bod ganddo bymtheg eiliad o fantes ond mewn gwirionedd dim ond 5 eiliad mewn llaw oedd ganddo. Fe gurodd Nick Elliott amser Ieuan o saith eiliad ac felly Nick aeth a hi o ddwy eiliad yn unig.
Hefyd yn cystadlu yn y coed am y tro cynta roedd na griw o arbenigwyr rali nos. Dafydd Evans, Steven John, Andrew Jones ("ac Andy Davies - i gyd yn ymladd trwy gydol y dydd ond yn fuddugol oedd Andrew Jones a Max Freeman o Bwllheli wedi perfformiad anhygoel yn gorffen y rali yn 17eg safle allan o bawb!
Cafodd Jamie Jukes bach o lwc o'r diwedd. Yn cwblhau'r rali yn y Suzuki wedi anlwc drwy'r tymor - trydydd safle ar ddeg iddo fe yn y rali gyfan
Roedd 'na tad a mab yn cystadlu yn erbyn ei gilydd hefyd - Iwan Roberts y 'tad' mewn Escort ac Iwan Roberts y mab mewn Toyota Corolla. Mae Iwan 'y mab' yn ennill ar gefn motobeic treialon fel arfer ond fe ddangosodd gymaint o botensial ar bedair olwyn a mai e ar ddwy – yn gorffen ei rali gynta' yn ddegfed ar hugain yn y rali - tra roedd Dad yn dal yn y coed yn trio trwsio'r car!
Un arall oedd yno ar gyfer bach o sbri yn Dyfi oedd yr arwr lleol Elfyn Evans a hynny yn y Fiesta R2 newydd. Doedd Elfyn ddim yn gystadleuol ond dyma oedd cyfle da iddo i brofi'r peiriant newydd i gwmni M-Sport o flaen ei ffans.