S4C
Dewisiadau

Cynnwys

4ydd safle i Elfyn yn Mecsico, 3edd rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd

Fe lwyddodd y gyrrwr Elfyn Evans i orffen Rali Mecsico gyda'i safle gorau - pedwerydd oedd y Cymro ar drydedd rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Yn ei M-Sport Fiesta RS WRC, dilynodd Evans o Ddolgellau a'i gyd-yrrwr Daniel Barritt strategaeth y tîm gyda rhediad perffaith. Dangosodd Evans gryfder ei gymeriad wrth iddo fabwysiadu tacteg welodd e'n cymryd y r'un risg yn yr amodau anodd, tra yn dangos potensial ei gyflymder hefyd.

Pan yn hyderus, fe wthiodd Evans ac fe osododd y trydydd amser cyflymaf drwy rediad cyntaf El Chocolate (C4) ynghyd â'r rhaniad gyflymaf ar Gymal chwech.

Diolch i'w ganlyniad trawiadol, mae Evans a Barritt bellach wedi dringo i'r pumed safle yn nhabl gyrwyr Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Meddai Evans: "Ar y cyfan rwy'n hapus iawn gyda fy rali ac mae dod oddi yno gyda phedwerydd safle cryf - sy'n gyfartal a fy safle orau erioed - yn gadarnhaol iawn. Yn bersonol rwy'n meddwl roedd y cyflymder lawer gwell yn Sweden a Monte, ond roeddem yn gwybod bod angen canlyniad da yma a dyna a wnaethom ni.

"Y prif nod oedd i gael rhediad solet, heb gamgymeriadau ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny. Ar wahân i daro ychydig o deiars ar y super special, ni wnaethom yr un camgymeriad, sydd yn dipyn o gyflawniad yma.

"Wrth gwrs ei fod braidd yn rhwystredig ar adegau - methu â gwthio at yr uchafswm pan oedd llawer mwy i'w rhoi - ond roedd llawer mwy i golli nag yr oedd i ennill"

Dywedodd Pennaeth M-Sport Malcolm Wilson OBE: "Fe wnaeth Elfyn a Dan sicrhau pedwaredd gwych ac yn awr mae nhw mewn pumed safle cryf yn y bencampwriaeth. Rwy'n credu ei fod yn deg i ddweud ei fod braidd yn rhwystredig ar adegau oherwydd roedd yn amlwg fod ganddo lawer mwy i roi, ond cadwodd ei ben ar y rali heriol hon sy'n sicr am adeiladu ar ei hyder. "

Mae rownd nesaf Pencampwriaeth Rali'r Byd yn yr Ariannin ar Ebrill 23-26

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?