Mi fydd Ralio yn darlledu holl uchafbwyntiau ail rownd pencampwriaeth y byd o Sweden. Hon yw unig wir rali aeaf y gyfres - eira, glaw a thymheroedd yn gostwng hyd at -25 gradd selsiws.
Mae'r cymalau yn parhau yr un fath heblaw am gymal gwych a fydd yn croesi'r ffin i mewn i Norwy. Ond Karlstad sy'n croesawi'r rali gyda'r parc gwasanaeth yn Hagfors 85 cilomedr i ffwrdd.
Yn ogystal â chadw llygad ar y Brif Bencampwriaeth, mi fydd Ralio yn dilyn hanes Elfyn Evans yn y WRC2. Fe gipiodd fuddugoliaeth yn Monte Carlo, a fydd e'n llwyddo i wneud hi'n ddwy fuddugoliaeth allan o ddwy yn Sweden?
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?