Elfyn Evans yn dychwelyd i Bencampwriaeth Rali Prydain
Mae Elfyn Evans wedi cadarnhau y bydd yn ralio gyda thîm DMACK ym Mhencampwriaeth Rali Prydain eleni, yn ogystal â chystadlu yn ail adran Pencampwriaeth Rali'r Byd.
Er i'r gyrrwr rali orffen ar y podiwm ddwywaith ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd 2015 fe benderfynodd M-Sport i beidio ag adnewyddu'i gytundeb ar gyfer eleni.
Yn lle hynny fe fydd yn parhau i rasio i'r tîm ar lefel WRC2, gan gyfuno hynny gyda chystadlu am Bencampwriaeth Rali Prydain sydd wedi cael ei ailwampio ar gyfer eleni.
Bydd y Cymro yn gyrru car Ford Fiesta R5 yn ystod Pencampwriaeth Rali Prydain, fydd yn dechrau ym mis Mawrth yn y Drenewydd a hefyd yn ymweld ag ardal Llanfair ym Muallt yn ystod y tymor.
Mynnodd y gyrrwr rali 27 oed o Ddolgellau ei fod yn gobeithio mwynhau ei hun yn y gystadleuaeth eleni, ar ôl y siom o beidio gallu parhau i gystadlu ym mhrif Bencampwriaeth Rali'r Byd.
"Mae'n braf bod nôl ym Mhencampwriaeth Rali Prydain yn ystod blwyddyn o adfywio sydd wedi gweld trefnwyr y bencampwriaeth yn rhoi cymaint o ymdrech i godi'r safonau," meddai Elfyn Evans.
"Ar ddiwedd y dydd, fe fydd hwn yn gyfle i mi ddod a hwyl nôl mewn i'r gamp yn bersonol.
"Mae rhai o'r adegau dw i wedi mwynhau mwyaf yn fy ngyrfa wedi dod wrth yrru'r R2 i'w derfyn mewn sawl rali Brydeinig, felly 'da ni'n sicr yn edrych ymlaen at fwynhau'n hunain yn fwy na dim eleni."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?