S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Pencampwr Prydain

Cipiodd Elfyn Evans deitl Pencampwriaeth Rali Prydain yn nghyfnod newydd y gyfres gyda buddugoliaeth ar Rali Ulster.

Fe wnaeth y Cymro adlewyrchu cyflawniad ei dad, Gwyndaf, a wnaeth hefyd selio teitl Pencampwriaeth Rali Prydain ar yr un rali yn 1996, 20 mlynedd cyn Elfyn.

Roedd rali 2016 am fod yn heriol i'r gyrwyr, gyda thywydd cymysg ar gymalau cul, anodd y rali a leolwyd yn Londonderry/Derry.

Elfyn Evans - yn gyrru Ford Fiesta R5 DMACK - oedd yn arwain o drwch blewyn ar ôl y diwrnod cyntaf ar y dydd Gwener, ychydig dros dair eiliad i fyny ar bencampwr y BRC ddwywaith Keith Cronin

Ond y dyn i guro ar y dechrau oedd Alastair Fisher - cyn iddo droelli yn gynnar yn y rali i ddisgyn ef i lawr y tabl.

Fe aeth Elfyn ymlaen i ymestyn ei fantais drwy fore Sadwrn ac i mewn i'r prynhawn cynnar, a thyfodd y fantais pan adawodd Cronin yn hwyr allan o'r gwasanaeth olaf oherwydd problemau â'r blwch gêr.

O ganlyniad fe gododd Jonny Greer i drydydd y tu ôl Fisher, a oedd wedi codi uwchben Greer ar y cymal olaf cyn y gwasanaeth.

Goroesodd Evans ddolen prynhawn y cystadlu a thri chymal olaf y rali i gymryd y teitl gyda rownd i sbario - er bod y finale yn Ynys Manaw yn cynnig pwyntiau dwbl.

Cafodd gystadleuwyr agosaf Elfyn - Tom Cave a Fredrik Ahlin benwythnosau anodd - Cave a phroblem siafft yrru a pynjar iAhlin

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?