Roedd 'na ddrama ar ddiwedd Pencampwriaeth Rali Prydain i bencampwr newydd y gyfres Elfyn Evans.
Fe ddaeth yr her o ochr Mark Higgins - wrth i'r Cymro fynd am ei chweched Buddugoliaeth o'r tymor ar Rali Ynys Manaw. Llwyddodd Elfyn, gyda'i gyd-yrrwr Craig Parry i gymryd yr anrhydedd, gan orffen 5.9 eiliad ar y blaen i Higgins a Darren Garrod gyda Tom Cave a James Morgan yn drydydd i sicrhau'r ail safle yn y Bencampwriaeth, a'rGwyddel Desi Henry a Liam Moynihan yn y pedwerydd safle.
Yn y categori Hanesyddol, fe lwyddodd perfformiad Jason Pritchard / Phil Clarke ym Mhencampwriaeth Ceir Hanesyddol Prydain eu helpu i amddiffyn eu mantais am y teitl drwy sgorio pwyntiau uchaf ar bob un o'r dau ddiwrnod a hanner o ralio ar 2 rownd i sicrhau ei fuddugoliaeth categori. Will Onions / Jamie Edwards etifeddodd yr ail safle pan wnaeth Ryan Barret / Paul McCann daro problemau gyda'i system olew a gorfodwyd allan ddau gymal o ddiwedd y rali . Trydydd oedd brawd Ryan Paul, arweinydd BHRC cyfredol, a Dai Roberts i gadw eu gobeithion am y teitl yn fyw. Damwain i Meirion Evans / Iestyn Williams yn eu MkII Ford Escort a ddaeth a'i rali nhw i ben a hynny ar ol arwain y categori Cenedlaethol a ganiataodd i Donnie MacDonald / Andrew Falconer gipio'r blaen ac aethant ati i arwain hyd y diwedd.
Yn y categori Hanesyddol, fe lwyddodd perfformiad Jason Pritchard / Phil Clarke ym Mhencampwriaeth Ceir Hanesyddol Prydain eu helpu i amddiffyn eu mantais am y teitl drwy sgorio pwyntiau uchaf ar bob un o'r dau ddiwrnod a hanner o ralio ar 2 rownd i sicrhau ei fuddugoliaeth yn y categori. Will Onions / Jamie Edwards etifeddodd yr ail safle pan wnaeth Ryan Barret / Paul McCann daro problemau gyda'u system olew a gorfodwyd allan ddau gymal o ddiwedd y rali . Trydydd oedd brawd Ryan Paul, arweinydd BHRC cyfredol, a Dai Roberts i gadw eu gobeithion am y teitl yn fyw. Damwain i Meirion Evans / Iestyn Williams yn eu MkII Ford Escort a ddaeth a'i rali nhw i ben a hynny ar ol arwain y categori Cenedlaethol a ganiataodd i Donnie MacDonald / Andrew Falconer gipio'r blaen ac aethant ati i arwain hyd y diwedd.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?