S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rali Portiwgal ar Ralio 26ain Mai

Mae Ralio Portiwgal yn dychwelyd i Ogledd y WLad ar gyfer 2015, gan ddychwelyd yn ol i leoliad mwy traddodiadol y gamp ac ar gyfer rhai o gymalau mwya anhygoel y Bencampwriaeth. Mae hi'n rali newydd i bawb. Y tro dwetha i'r gyfres weld cyffro'r Bencampwriaeth oedd nol yn 2001, felly ni fydd gan y gyrwyr unrhyw brofiad o'r cymalau yno heblaw am Fafe - lleoliad y Sprint hynod boblogaidd gyda'i neidiau anferthol. Mi fydd Rlaio yno i didlyn y cyffro ac i glywed gan Elfyn Evans yn dilyn ei 3ydd safle gwych yn yr Ariannin a phodiwm cynta yn y Bencampwriaeth. Mae'r Cymro bellach yn 4ydd yn nhabl y gyrwyr ac ond 10 pwynt y tu ol ir ail safle. A fydd e'n gallu gwella ar hynny wedi'r 5ed rownd?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?