S4C
Dewisiadau

Cynnwys

DAY 1 WRGB

Sebastien Ogier a goronwyd yn Bencampwr Byd am y pedwerydd tro yn sbaen bythefnos yn ol y cyntaf ar yr hewl ac yn chwifio ei anrheg nadolig cynnar - yn cipio'r cymal cyflyma ar Myherin a doedd hi ddim yn berfformiad gwael i Ott Tanak chwaith gyda'r gwr o Estonia yn hawlio'r ail safle - gyda Hayden Paddon - - y trydydd cyflyma .

Gyda chytundebau dwy flynedd yn eu pocedi - roedd dau yrrwr Citroen - Craig Breen - y pedwerydd cyflyma ond yn cyfadde ei fod ymhell o fod ar ei orau, tra roedd y Prydeinwr Meeke yn 6ed

Doedd dim newid ar y brig yn Sweet Lamb - Ogier - er yn gwyro i osgoi ffesant, yn cipio ei ail gymal or diwrnod i ymestyn ei fantais dros Tanak

Yn hedfan Ar Hafren a Dyfnant - Tanak yn agosau at yr Arweinydd Ogier. 2.2 eiliad y gwahaniaeth ar y ddau gymal. Roedd Latvala'n ffeindio'i draed i neidio uwhcben Paddon a Meeke i eistedd yn y trydydd safle erbyn ail rediad o gymalau'r bore .

Draw at Myherin am yr eildro aeth y gyrwyr ond cymal i'w anghofio fu hwn i Craig Breen a Scott Martin - damwain yn eu gweld yn rowlio a mas o'r cystadlu. Ogier oedd am fynd a hi - 6 eiliad ynghynt na'r bore

Yn naddu mewn i fantais Ogier oedd Tanak ond trafferthion a grogiant y Fiesta - ac yn colli amser ar Myherin 2. Latvala o hyd yn dal gafael ar y 3ydd safle

Draw at Sweet Lamb aeth y gyrwyr am yr eiladro. Ar frig y tabl roedd gornest Ott a Sebastien am y flaenoriaeth wedi symud tuag at gyfeiriad y Ffrancwr, wrth i Tanak golli mwy o amser i Ogier

Hafren unwaith eto - ond stori mawr cymal 7 oedd am Jari-Matti Latvala. Y Ffin fel Mikkleson yn gyrru ar yriant dwy olwyn, yn colli bron i ddwy funud a hanner. Rhwystredig hefyd oedd Meeke, ond roedd e o hyd yn yr ornest yn y trydydd safle tu ol Ott ac Ogier

Erbyn cymal ola'r diwrnod cynta - yr un oedd y safleoedd ar frig y cystadlu - dros 37 eiliad rhwng Ogier a Ott. Ond gyda Thierry Neuville yn cipio'r amser cyflyma, fel bellach sy'n yn y trydydd safle gyda Paddon a Meeke yn cwrso

Ym Mhencampwriaeth y WRC2 - Un Cymro'n ymddangos oedd Osian Pryce ar ol cipio Tlws Fiesta DMack eleni yn camu i mewn ir Fiesta R5 yn y WRC2. Heb fawr o amser i gyfarwyddo a'r car, roedd yn dipyn o sioc ir system. Er gwaetha pwnctiar, amserau gwych gan Osian Pryce i orffen y diwrnod cynta yn 6ed

1. Sebastien Ogier FRA Volkswagen Motorsport Polo R WRC 1h 44m 31.2s M

2. Ott Tanak EST DMACK WRT Ford Fiesta RS WRC +37.3s T

3. Thierry Neuville BEL Hyundai Motorsport Next Gen i20 WRC +1m 09.0s M

4. Hayden Paddon NZL Hyundai Motorsport N Next Gen i20 WRC +1m 12.8s T

5. Kris Meeke GBR Abu Dhabi Total WRT Citroen DS3 WRC +1m 14.8s

6. Dani Sordo ESP Hyundai Motorsport Next Gen i20 WRC +2m 07.2s M

7. Mads Ostberg NOR M-Sport WRT Ford Fiesta RS WRC +2m 37.3s M

8. Jari-Matti Latvala FIN Volkswagen Motorsport Polo R WRC +3m 43.6s M

9. Stephane Lefebvre FRA Abu Dhabi Total WRT Citroen DS3 WRC +4m 31.6s

10. Esapekka Lappi FIN Skoda Fabia R5 +4m 55.0s WRC2

11. Eric Camilli FRA M-Sport WRT Ford Fiesta RS WRC +5m 26.0s M

12. Teemu Suninen FIN Skoda Fabia R5 +5m 41.7s WRC2

13. Pontus Tidemand SWE Skoda Motorsport Fabia R5 +6m 06.2s WRC2

14. Jan Kopecky CZE Skoda Fabia R5 +6m 34.6s WRC2

15. Gilbert Quentin FRA Citroen DS3 WRC +7m 04.2s

Read more at http://www.crash.net/wrc/results/234794/1/wales-rally-gb-day-1-leaderboard-after-ss8-top-15.html#434lJMvg6dJUHSe6.99

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?