S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Pantperthog a'i niwl groesawodd y gyrwyr ar gyfer brwydr gynta'r ail ddiwrnod - Roedd Ogier, yr arweinydd yn gwthio ond ro'dd e yn gorfod setlo am yr ail gyflyma tra mai llawn cymhelliad odd Ott Tanak, a gyrrwr DMack aeth a hi

1Un o glasuron y Byd oedd nesa - Dyfi, ac fe atebodd Pencampwr y Byd yn ol drwy gipio'r ail gymal o 2.4 eiliad iddo

2 bwnctiar araf gafodd Meeke ar y ddau gymal gynta, a gyda dim gwasanaeth drwy'r dydd, fydda'r 6 chwe chymal oedd i ddilyn am fod yn hynod ddiddorol

Gartheiniog, a thro Thierry Newville oedd e i groesi'r llinell gyntaf. Y gwr o Wlad Belg efallai'n gallu ymlacio bach yn fwy wrth i'r ornest rhyngddo fe a Mikkleson oeri wedi problemau y Norwyad ddoe.

Nol aeth y gyrwyr at ail rediad y cymalau a Pantperthog eto yn eu gwynebu - roedd Ott yn hedfan a pharhau i wneud hynny nath y gyrrwr Dmack dros Dyfi 2 a Gartheiniog 2

Ar Aberhirnant - Cymal 15 - ai droed ar y sbardun - 70 milltir yr awr ar gyfartaledd- ro'dd Pencampwr y Byd yn ddigon bodlon a'i ddiwrnod er gwaetha'i deiars yn rhy galed i'r cymalau. Fe y cyflyma gyda Tanak am y tro cynta'n y rali bellach i lawr y 5ed cyflyma

1 cilometr yr awr yn arafach a phump eiliad ar ol y Ffrancwr oedd PAddon a'r Kiwi yn dal yn gorfod setlo ar pedwerydd safle y tu ol ir hyandai arall o Neuville.

Am y tro cynta ers 1999, fe deithiodd y rali draw i Loegr ar gyfer yr Wyl Ralio o gwmpas Castell Chumley - byddai'r tabl ddim yn newid yma ond yr un nath fwynhau - Andreas Mikkleson, y NOrwyad yn plesio'r dorf fwya

Ac wedi 8 cymal heriol yr ail ddiwrnod, nath Ogier ymestyn y bwlch ychydig i 33.8 eiliad i ffwr o Tanak, funud ar ol y gwr o Estonia odd Thierry Neuville a gafodd y gorau o'r frwydr rhyngddo fe a Paddon am y trydydd safle. 5 ed rhwystredig oedd Kris Meeke - gosodiad a diffyg perfformiad y car ar y cymalau gwlyb yn ei rwystro rhag frwydro.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?