S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymalau Canolbarth Cymru

Fe cafwyd y nifer fwya o gystaleuwyr ar Gymalau Canolbarth Cymru ac ail rownd Pencampwriaeth Rali'r RAC – 75 i gyd ac er gwaetha'r tywydd gwlyb ar cymalau'r fforestydd gwlyb a llithrig – fe ddaeth y ffans allan

Nick Elliott a David Price enillodd – fe gymron nhw'r awennau yn gynnar iawn ar y rali. Eu pedwaredd buddugoliaeth mewn pum mlynedd ar rali odd yn cynnwys y cymalau clasurol – myherin ac hafren.

Gyda 28 eiliad o fantais yn mynd mewn ir cymal ola- fe bwyllodd Elliott gan adael i Matthew Robinson ennill ddeng eiliad yn ol i greu bwlch o 17.6 eiliad rhwng y ddau ar ddiwedd y cystadlu.

Meirion Evans a Iwan Jones odd ar stepen isa'r podiwm – yn gwneud hi'n 3 allan o 3 ir Ford Escorts Mk 2 gan adael i Sunbeam Lotus Owen Murphy yn bedwerdydd.

Arweinydd cynnar y Bencampwriaeth Richard Hill a'i gyd-yrrwr newydd Steffan Evans ddaeth yn 5ed ar ol colli munud ar Myherin.

Cael eu gwthio i'r 7fed safle gan Darren Moon gath Tomas Davies/Eurig Davies – 2 eiliad yn unig rhwng y ddau gar yma.

Ymddeol or rali yng Nghatergori 3 wnath Jason Pritchard/Phil Clarke gyda thoriad ir halfshaft a r'un odd y stori i Terry Brown/Den Golding gyda baryn anti-rolio y car yn torri yn Sweet Lamb. Siom i Terry gydag e'n cyflawni amserau cystadleuol dros 2 gymal cynta'r rali.

Yng Nghategori 1 - Gyrru'n berffaith wnath Ray Cunningham – buddugoliaeth iddyn nhw yng Nghategori 1 yn ei Mini Cooper S – yn ail ac yn ennill Sialens Kumho y Clubmans oedd Gwilym Roberts a Don James yn eu Lotus Cortina ar ol cyflawni amserau cyflym iawn

Yn y rali fodern - Paul Davy ddaeth yn drydydd – a fe sy'n arwain y bencampwriaeth er gwaetha troellad ar yr ail gymal.

Er cychwyn yn bwyllog ar ei rali gynta yn y Bencampwriaeth, ail odd Dan Humphreys ac Ian Pryce.

Er y problemau a'r breciau ar Myherin, fe serenodd Alex Allingham drwy ennill pob un or 4 cymal – yn ennill ei ail fuddugoliaeth yn olynol ar y Gymalau Canolbarth Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?