Mae Pencampwr Rali'r Byd Sebastien Ogier wedi ennill Rali Cymru GB am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Fe orffennodd y Ffrancwr 32-mlwydd oed 10.2 eiliad o flaen Ott Tanak, ar ôl rhediad ysgubol ar y diwrnod olaf i'r gyrrwr o Estonia - yn cipio 12 cymal ar y rali - i leihau'r bwlch wedi'r tridau o gystadlu.
Sicrhaodd Ogier ei bedwaredd teitl Pencampwriaeth y Byd yn olynol ym mis Hydref, ochr yn ochr â'i Volkswagen Motorsport gyd-yrrwr Julien Ingrassia. Ei fuddugoliaeth yng Nghymru oedd ei chweched y tymor ac fe gadarnhaodd hefyd Bencampwriaeth y Gwneuthurwyr i Volkswagen benwythnos yma.
Y gyrrwr o Wlad Belg Thierry Neuville ddaeth yn drydydd ar ddiwedd y 22 cymal.
Gydag un rownd yn weddill, mae Neuville a siawns o gipio'r ail safle gyffredinol ym Mhencampwriaeth y Gyrwyr.
Kris Meeke o Citroen a'i gyd-yrrwr Paul Nagle oedd y cystadleuwyr gorau Prydain - yn bumed.
Roedd y Cymro a'r Pencampwr Tlws Fiesta DMack Osian Pryce yn cystadlu yn y WRC2, ac yn 19 ar ôl prawf 19 yn Alwen, ond roedd yn rhaid iddo dynnu'n ôl pan ddioddefodd twll yn y rheiddiadur y Fiesta ar y 20fed cymal Clocaenog.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?