S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bydd Volkswagen yn rhoi'r gorau i Bencampwriaeth Rali'r Byd ar ddiwedd tymor 2016.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau mewn cyfarfod a'r bwrdd ym mhencadlys VW yn Wolfsburg fore dydd Mawrth.

Bu gobeithion y byddai VW yn cael ganiatád estyniad un-tymor i wneud defnydd o'r Polo 2017 ar ei newydd-wedd, ond casfodd u gobeithion hynny eu diffodd yn y cyfarfod.

Beth nesaf ar gyfer WRC ac Ogier?

Yn lle hynny, mae'r rhaglen - yn union fel ymrwymiad y chwaer gwmni Audi ym Mhencampwriaeth Endiwrans Byd - yn gorffen ar ddiwedd 2016.

Does dim unrhyw sylw swyddogol gan VW ar y penderfyniad eto.

Bydd Rali Awstralia, yn ddiweddarach y mis hwn, yn nodi diwedd pedwar tymor hynod o lwyddiannus ar frig y byd ralïo ar gyfer y tîm.

Mae Sebastien Ogier a VW wedi dominyddu pencampwriaethau y gyrwyr a gwneuthurwyr ac wedi cipio 42 rali unigol ar hyd y ffordd.

Mae penderfyniad Volkswagen WRC am y tymor nesaf yn golygu - sy'n cynnwys pecyn rheolau newydd gyda cheir sylweddol gyflymach - y bydd y brwydro'n digwydd rhwng y criwiau rheolaidd Hyundai a M-Sport (Ford) a chyn-gewri'r Bencampwriaeth Citroen a Toyota.

Mae hefyd yn gadael cwestiynau dros ddyfodol Ogier a Jari-Matti Latvala ac Andreas Mikkelsen ar farchnad y gyrrwr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?