Yn cael ei chynnal ar ynys brydferth Sardinia, mae Rali'r Eidal yn enwog am fod yn un heriol ir gyrwyr. Sebastien Ogier gipiodd y fuddugoliaeth yn 2013 a 2014 - pwy eith a hi eleni? Un wrthi'n trio i gyrraedd y brig fydd y Cymro Elfyn Evans o dim M-Sport a bydd Ralio yn dilyn y cyffro.
Mae pencadlys y rali yng Ngogledd yr ynys Olbia ac mae'n sialens sy'n cael ei chroesawi gan y gyrwyr diolch i'w ffyrdd amrywiol. Mae 'na rywbeth at ddant pawb ar 6ed rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd.
Gyda miloedd yn heidio draw iddi, bydd rhaid ir cystadleuwyr gadw eu pennau yng ngwres y frwydr oherwydd mae graean Sardinia wedi dod a sawl breuddwyd i ben yn y gorffennol.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?