Mae'n anodd credu fod 2016 yn dirwyn i ben, ac mae'r flwyddyn hon wedi gwibio heibio i'r gyrrwr rali o Ddolgellau, Elfyn Evans.
Ac mewn rhaglen ddogfen ar S4C dros gyfnod y Nadolig, cawn edrych yn ôl dros y 12 mis llwyddiannus diwethaf yng ngyrfa'r gyrrwr ifanc o Feirionnydd.
Daliwch yn dynn ar gyfer gwibdaith fythgofiadwy yn y rhaglen Ralïo+: Blwyddyn Elfyn Evans ar nos Fercher 8 Rhagfyr am 7.00.
Y tymor yma, bu Elfyn yn cystadlu yn yr WRC-2, sef ail reng cystadlaethau ralïo'r byd ar ôl symud i lawr o'r rheng uchaf, sef Pencampwriaeth Rali'r Byd (WRC). Serch hynny, mae Elfyn, sy'n 27 oed, wedi llywio ei M-Sport Fiesta R5 tuag at sawl buddugoliaeth gofiadwy - gan gynnwys ym Monte Carlo, Sweden a Ffrainc - gan orffen yn drydydd ym mhencampwriaeth gyrwyr y WRC2.
Ac yn goron ar y cyfan, fe enillodd Elfyn Bencampwriaeth Rali Prydain, union 20 mlynedd ers i'w dad Gwyndaf Evans ennill yr un gystadleuaeth.
Yn y rhaglen awr o hyd, sy'n rhifyn arbennig o'r gyfres Ralïo+ ar S4C, cawn fwynhau rhai o uchafbwyntiau rasus Elfyn drwy gydol y tymor, ar y llwyfan rhyngwladol a Phrydeinig, yn ogystal â chael cipolwg ar ei fywyd o ddydd i ddydd.
Mewn cyfweliadau ecsgliwsif ar gyfer S4C, bydd Elfyn yn hel atgofion am y flwyddyn ac yn trafod ei obeithion am 2017.
Dywedodd cynhyrchydd Ralïo+, Emyr Penlan: "Ry' ni wedi dilyn gyrfa Elfyn ers y cychwyn cyntaf ac roedd eleni yn flwyddyn dda arall iddo. Unwaith eto mae e wedi profi ei hun ym mhencampwriaethau WRC-2 ac ym Mhrydain, a'i brif obaith nawr yw dychwelyd i'r lefel World Rally Championship."
Mae Ralïo+: Blwyddyn Elfyn Evans yn cael ei darlledu ar nos Fercher 28 Rhagfyr am 7.30, a gallwch wylio ar-lein ar alw ar s4c.cymru<http://www.s4c.cymru>
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?