S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bydd Pencampwr Rali Prydain Elfyn Evans yn mynd yn erbyn Kris Meeke a Craig Breen ar rownd agoriadol Pencampwriaeth Rali'r Byd yn Monte Carlo y mis hwn.

Roedd dyfodol y Cymro 28-mlwydd-oed wedi bod yn destun dyfalu parhaus ers iddo efelychu ei dad, Gwyndaf, drwy ennill yn Ulster a dod yn bencampwr Prydain.

Ond mae'r rhestr o yrwyr Monte Carlo yn cadarnhau y bydd e'n dychwelyd i Bencampwriaeth y Byd gyda'r tîm M-Sport Ford i yrru un o'r Fiestas WRC 2017 ar ei newydd wedd ochr yn ochr a Phencampwr y Byd Sebastien Ogier a'r Estoneg Ott Tanak.

Fodd bynnag, bydd Evans, a gafodd ei ollwng gan M-Sport o'r ris uchaf ar ddiwedd 2015 ar ôl dau dymor yn y WRC, yn defnyddio teiars DMACK tra bydd Ogier a Tanak yn rhedeg ar Michelins, y dewis ar gyfer y rhan fwyaf o'r timau uchaf.

Enillwyr Monte llynedd yw Ogier a chyd-yrrwr Julien Ingrassia, sydd wedi newid i Ford ar ol i'r tîm Volkswagen dynnu nol o'r gyfres fis Tachwedd, a nhw sydd wedi eu rhestru yn rhif un - y tro cyntaf i gar M-Sport ddechrau y tymor yn y fath safle.

Meeke sy'n arwain her Citroen, mae'r gwr o Ulster a'r Ffrancwr ifanc Stephane Lefebvre yn gyrru pâr o geir WRC C3 newydd, tra bydd Breen ar fwrdd un o'r DS3s 2016 ar gyfer rali hon.

Mae disgwyl iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn car 2017 ar Rali Sweden y mis nesaf.

O dan y rheolau newydd, sy'n gweld y cyflwyniad o geir mwy pwerus ac yn fwy aerodynamig, gall pob tîm gofrestru tri gyrrwr, gyda'r ddau sy'n arwain ar bob digwyddiad yn sgorio pwyntiau ym Mhencampwriaeth y Gwneuthurwyr.

Bydd Hyundai yn cyflwyno tri i20s newydd gyda'i yrwyr Hayden Paddon, Thierry Neuville a Dani Sordo. Mae Toyota, sy'n dychwelyd at y bencampwriaeth ar ôl bwlch o 16 mlynedd, yn dechrau gyda dau - Jari-Matti Latvala a Juho Hanninen fydd wrth y llyw.

Yn dychwelyd hefyd mae Skoda, a enillodd y gyfres WRC2 gyda Esapekka Lappi, ond gydag Andreas Mikkelsen ar flaen y gad ac Jan Kopecky yn rhedeg fel ei bartner yn yr ail gar ffatri Fabia R5.

Mae Mikkelsen, y trydydd aelod o'r tîm VW sydd bellach wedi darfod, wedi dweud ei fod yn gobeithio bod yn ôl mewn car WRC ar gyfer Rali Sweden.

Cael ei israddio mae'r Ffrancwr Eric Camilli i Fiesta R5 hefyd ar ol y cadarnhad o'i fynediad ym Mhencampwriaeth y WRC2 i'r tim M-Sport.

Bydd yr holl ddrama yn dechrau ym Monaco ar Ionawr 19.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?