S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cystadleuaeth Ralio - manylion

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd yn rhan o raglen Ralio+

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir gwobr o becyn nwyddau Ralio

4. I gystadlu, rhaid i chi ateb y cwestiwn canlynol gan ddewis un o'r tri atebion a rhoddir isod:

Pwy yw tad Elfyn Evans?

1) Geraint Evans

2) Gwyndaf Evans

3) Gareth Evans

5. Er mwyn cofrestru eich ateb ffoniwch 08443 351244 gan ddewis un o'r tri ateb - gan wasgu botwm 1, 2 neu 3 ar eich ffôn i gofrestru eich dewis. Llinellau ar agor o 9.30yh ar 4ydd Awst.

(Cost galwad yw 5c y funud yn ogystal â phris mynediad i'r rhwydwaith eich cwmni ffôn. Bydd y llinellau'n cau am 11.59yh ar y 4ydd o Awst. Peidiwch ffonio ar ol i'r llinellaungau neu mae'n bosib bydd rhaid i chi dalu am yr alwad.Cost o ddarparwyr eraill a ffonau symudol yn dibynnu ar y darparwr. Gall cost galwadau a wneir gan ddefnyddio ffonau symudol fod yn sylweddol uwch).

6. Y dyddiad a'r amser cau yw'r 4ydd o Awst 2015 am 11.59. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ond efallai y codir tal amdanynt.

7. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

8. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch ond dim ond un wobr sydd i ennill.

9. Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cywir a gyflwynir erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch yr enillydd yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

10. Hysbysir yr enillydd ar Awst 25ainar yr awyr, wedi amser cau y gystadleuaeth. Os na dderbyniwyd Tinopolis ateb i'r galwad gan yr enillydd, yna ceidw Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

11. Ar y dyddiad cau, bydd yr enillydd yn cael ei ffon, ac ar ôl y dyddiad cau cyhoeddir ei enw ar Ralio Awst 25ain a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

12. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

13. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

14. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

15. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

16. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

17. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr, neu unrhyw ran ohoni, am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad Tinopolis ac S4C yn hyn o beth yn derfynol.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb a phrawf ei bod wedi cyrraedd.

19. Caiff y wobr ei ddanfon drwy bost 'Special Delivery' gan gynrychiolydd o Tinopolis i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf eu bod wedi cyrraedd.

20. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

21. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

22. Wrth ffonio'r llinell gyswllt rydych yn rhoi'r hawl i Tinopolis, S4C, a Pawb Cyf gymryd cofnod o'ch rhif ffôn a'ch ardal yn awtomatig at bwrpasau gweinyddu'r gystadleuaeth. Mae Tinopolis yn defnyddio gwasanaethau Pawb Cyf i weinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd Tinopolis, S4C na Pawb Cyf yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw trydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon a byddant yn dinistrio'r holl wybodaeth bersonol yn eu meddiant cyn gynted â phosib wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli,

Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141

I brynu'r nwyddau, cysylltwch a dyma-fi.co.u

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?