Bydd y gwneuthurwyr teiars Prydeinig, DMACK yn cystadlu ar frig y byd rasio ceir am y seithfed tymor o'r bron wrth iddynt gadarnhau y byddant yn rasio ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yr FIA ar gyfer 2017.
Yn arwain tîm Rali'r Byd DMACK bydd y Cymro 28 mlwydd oed, Elfyn Evans mewn Ford Fiesta WRC 2017. Bydd Evans, sy'n Bencampwr Rali Prydain yn ail-ymuno â Daniel Barritt o Loegr gan sicrhau y bydd y tîm yn hollol Brydeinig.
Mae partneriaeth fer Evans gyda DMACK wedi bod yn un llwyddiannus, wrth iddo ennill Pencampwriaeth Rali Prydain 2016 wedi iddo ennill 5 allan o 7 o rowndiau ac yn ennill y teitl yn Rali Bettega ym mis Rhagfyr 2016.
Bydd Evans yn gyrru Ford Fiesta WRC newydd M-Sport ac Elfyn fydd 3ydd gyrrwr M-Sport wrth iddynt sgorio pwyntiau wrth ddechrau â Rali Monte Carlo. Bydd y pâr yn gorffen paratoi gyda digwyddiad profi yn Ffrainc ar Ddydd Gwener, 13 Ionawr.
Bydd DMACK hefyd yn parhau â'i rhaglen saith rownd ar gyfer enillydd Tlws Drive DMACK Fiesta llynedd. Bydd Max Vatanen o'r Ffindir a Jon Armstrong o Ogledd Iwerddon yn ymuno â'r pencampwr, Osian Pryce o Gymru wrth iddynt yrru M-Sport Fiesta R5.
Bydd Tlws Drive DMACK Fiesta sydd wedi gwobrwyo'r gyrrwyr ifanc orau dros y 3 mlynedd diwethaf yn dod yn Bencampwriaeth Rali Ieuenctid y Byd yr FIA eleni.
Bydd chwe rownd o Rali'r byd yn rhan o'r Bencampwriaeth a bydd gyrrwyr o ar draws y byd yn cystadlu mewn ceir Fiesta RT2 gan M-Sport sydd i gyd yr un peth a phob un ohonynt yn ymladd am y wobr o dymor llawn yn gyrru yn y WRC 2.
Bydd DMACK yn cystadlu gyda Michelin fel gwneuthyrwyr teiars swyddogol y WRC ar gyfer y seithfed tymor yn olynol. 2016 oedd blwyddyn mwyaf llwyddiannus y cwmni, wrth sgorio 30 amser cymal cyflymaf ac arwain 2 rali yn eu cyfanrwydd ar ôl cyfnod o 15 mis o ddatblygu technegol dwys.
Bydd DMACK yn parhau i gyflenwi teiars DMACK Grippa wedi'u uwchraddio gyda newidiadau a fydd yn addas ar gyfer gyrrwyr WRC a WRC 2. Mae patrwm, proffil a chyfansawdd newydd ar y teiar asffalt ac mae'r teiar graean wedi derbyn gwelliannau perfformiad gan gynnwys strwythur "run-flat."
Mae'r teiars gaeafol ar gyfer Monte Carlo a Sweden wedi cael ei ail-gynllunio gyda phatrymau newydd a system stydiau.
Bydd tymor DMACK ar gyfer 2017 yn dechrau yn Rali Monte Carlo sy'n dechrau ar ddydd Iau y 19eg o Ionawr o sgwâr y casino ym Monaco.
Dywedodd Dick Cormack, rheolwr gyfarwyddwr DMACK: "Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig iawn yn hanes DMACK – o safbwynt perfformiad a datblygiad technegol. Mae ein tîm bach wedi cymryd camau enfawr ymlaen ac ry'n ni'n benderfynol o weld y gwelliant yn parhau yn ystod y tymor.
"Mae Elfyn wedi bod yn lysgennad arbennig i DMACK wrth iddo ddominyddu Pencampwriaeth Prydain ac rwy'n hyderus y bydd ei awydd ar gyfer llwyddiant yn dangos yn glir eleni."
Dywedodd gyrrwr DMACK WRC, Elfyn Evans: "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn gyrru car WRC unwaith eto yn ystod cyfnod cyffrous i'r gamp gyda chenhedlaeth newydd o geir ac rwy'n ddiolchgar iawn i DMACK am y cyfle. Dwi wedi mwynhau gweithio gyda'r cwmni dros y flwyddyn diwethaf wrth i mi fod yn rhan o ddatblygiad a pharatoi ar gyfer 2017.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i ffwrdd o'r lefel uchaf, ond rwy'n dychwelyd yn barod iawn er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfle."