S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Fe roddodd reidiwr ffatri Rockstar Husqvarna Graham Jarvis ei droed i lawr yn Ne Cymru i gychwyn y Flwyddyn Newydd gyda buddugoliaeth yn y Endiwro 2 Ddiwrnod Cymoedd Xtreme yn Arena Walters ger Glyn-nedd.

Roedd David Knight - a oedd â chlun newydd 7 wythnos yn ôl - yn 2il ar ei feic newydd KTM Mark Jackson Eurotek a Keelan Hancock O Gernyw (Husqvarna) yn 3ydd.

Dechreuodd y penwythnos ar y 7fed o Ionawr gyda lap fel Prolog Technegol gan fod y gwelededd wedi ei gyfyngu wedi i niwl trwm chwythu i mewn. Cafodd 2 lap eu hamseru cyn cinio a wedyn 2 brawf cyflymder ar y ffyrdd coedwigaeth yn y prynhawn, ond cafodd yr ail i'w rhedeg ei ganslo ar ôl damwain.

Fe osododd Kip Herring yr amseroedd cyflymaf a fe gymerodd y safle ar y brig gyda David Knight yn yr 2il a Graham Jarvis yn y 3ydd safle.

Ar fore Sul dechreuodd y prif ras 3 awr o hyd ar ôl ychydig o oedi. Yr her i'r beicwyr oedd cwblhau 3 lap o'r cwrs. Dechreuodd frwydr am y brig yn fuan rhwng Graham Jarvis a David Knight tan i David neidio i mewn i ffos â silt llwch glo lle cafodd ei ddal yn sownd a chollodd 20 munud. Ar ddiwedd ei her gyntaf roedd Graham Jarvis, yr arweinydd o flaen Keelan Hancock gyda David Knight yn 7fed.

Ar yr 2il lap, nid yn unig oedd gan yr arweinwyr rwystrau naturiol i'w hwynebu, ond roedd hi hefyd yn anodd iddynt basio'r rhengoedd o feicwyr ar y cwrs.

Erbyn i Graham Jarvis gwblhau ei 2il lap fe lwyddodd i lapio 150 o feicwyr. Roedd David Knight hefyd yn gweithio ei ffordd drwy'r cae ac fe symudodd i fyny i'r 4ydd.

Gydag ugain munud i fynd cyn i'r cwrs gau fe gwblhaodd Graham Jarvis ei 3ydd lap i ennill ei Endiwro cyntaf o 2017. Collodd David Knight yr amser terfyn o 3 awr, ond fe gipiodd yr ail safle, gyda Keelan Hancock yn dod cartref yn 3ydd. Olly Megson o Ynys Manaw ddaeth yn 4ydd ac - er gwaethaf rhedeg allan o betrol - gorffennodd Matthew Jones yn 5ed. Chris Madigan 6ed, Anthony Millar 7fed, Tom Herring yn 8fed yn y Clubman gorau, Kip Herring yn 9fed a Roger Holland yn 10fed. Dim ond 10 o feicwyr gwblhaodd 3 lap. Tim Forman oedd yn 11eg, Andy Bisset 12fed, Danny Thomas 13eg, Ricky Wiggins 14eg, Liam Phillips 15fed a Paul Davies yn 16 oedd y gorau dros 40. Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Graham Jarvis "roedd hon yn ras anodd!!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?