Fe aeth y frwydr am y bencampwriaeth i lawr ir rali ola yn Sbaen yn ddiweddar rhwng Sander Parn ar Cymro Tom Cave- 27 pwynt o fantais ar ol 3 buddugolaieth ir gwr o Estonia a fe y ffefryn i gymryd y goron yn dilyn cysoneb drwy gydol y tymor. Ond, roedd Tom a Craig Parry yn gwrthod roi'r ffidil yn y to.
Ar ol ffrwydro drwy strydoedd Barcelona ar y dydd iau fe ddechreuodd y rali ar y diwrnod canlynol.
Y Ffrancwr Quentin Gilbert - ar ol ennill y super special y noson gynt oedd ar fantais wrth wneud hi'n 4 cymal allan o bedwar ar gymalau'r bore. Ond fe ddaeth ei ddechre perffaith i ben pan dorodd ei hongiad gan ddod ai obeithion oi fuddugolaieth gynta i ben.
Fe gafodd arweinydd y bencampwriaeth Parn ar Cymro James Morgan hefyd ddiwrnod iw anghofio, ar ol i gar arafach ail ymuno ou blaenau ar gymal 3 ar llwch trwm o ganlyniad yn effeithio ar ei welededd - yn colli munud ac yn ei daflu i lawr ir safle ola. ond fe ddaeth yn ol i 4ydd erbyn diwedd y diwrnod.
Roedd yr arwr lleol Nil Solans allan i blesio'r dorf. yn cipio'i gymal cyflyma cynta erioed ar gymal 7. a hynny yn ei daflu i fyny ir ail safle erbyn diwedd diwrnod 2 gyda Max Vatanen y tu ol iddo yn drydydd.
Tra roedd ei wrthwynebydd yn y gyfres yn stryglo, roedd y tim o Gymru Cave a Craig Parry alla manteisio ar y sefyllfa ac yn ceisio cipio'r tlws trwy ei yrru cyflym a thrwy ennill 2 gymal, a gyda'r ffrancwr mas or frwydr - roedd y cymry yn arwain gda munud mewn llaw a gyda 2 ddiwrnod yn weddill.
A gyda dau ddiwrnod i fynd cymerodd e ddim sbel cyn ir newid or graean ir asfflat gnoi un or gyrwyr - y gyrrwr o Ganada Leo Urlichich yn methu ei fan brecio ac yn bwrw pont ar gymal 10. ar gwr 29 mlwydd oed yn gorfod ymddeol ganol dydd.
Yn ail ac yn manteisio ar ei wybodaeth leol oedd y sbaenwr Solans - yn dangos cysondeb, ac yn ymestyn bwlch iachus rhyngddo fe a'r trydydd safle Szymon Kornicki.
Roedd Cave yn cwrso pob un pwynt bonws er mwyn ceisio ennill y bencampwriaeth. Ond doedd neb am wneud e'n hawdd iddo - yn ennill ond un cymal cyflym ar yr ail ddiwrnod ond o hyd yn arwain wrth fynd ir afael ar diwrnod ola.
Ar dyn roedd Tom yn ceisio cael y gore ohono oedd Sander Parn - yn mynd ar cymal cyflyma ar gymal ola'r dydd. Y cyfan oedd angen iddo neud oedd dala mlaen i'r bumed safle ond roedd y pedwerydd diwrnod eto i ddod - sef finale Rali Sbaen ac uchafbwynt Tlws Fiesta Dmack.
Yn Sbaen, 2 ddyn odd yn y ras am y teitl. Ar unig un a fedrai stopio Parn rhag ennill y goron oedd Cave.
A gyda phedwar cymal eto i fynd - Cave oedd yn rheoli'r rali bellach, ond roedd Parn yn ishte'n gyfforddus yn bumed -a hynny'n saff o roi'r tlws iddo fe.
Ac er y fantais, fe gafodd Cave hunlle ar gymal cynta'r diwrnod ola - yn llithro oddi ar y ffordd ac yn colli 3.5 munud a llithro i ffwrdd hefyd nath y tlws o'i afael.
A hynny felly'n golygu mai y gyrrwr Solans etifeddodd y blaen gyda 2 funud o fantais ar frig y rali wedi 15 cymal. I orffen y tymor ar y brig gyda'i fuddugoliaeth gynta ar ei rali adre.
Ond yn hawlio'r sylw Sander Parn ai gyd yrrwr o Gymru James Morgan - wedi 3 buddugoliaeth ar 5 rownd y gyfres nhw oedd y Pencampwyr, a'u gwobr yn rhoi cyfle i gystadlu yn WRC2 y flwyddyn nesa
Felly dyma gadarnhad o ganlyniad y gyfres - Ar ol tymor dramatig ar draw pump gwlad - Sander Parn a James Morgan yw pencampwyr cynta Tlws Fiesta Dmack. 19 pwynt yn gwahanu Parn a Cave a Quentin Gilbert yn drydydd.