S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rali Cymru GB yn barod i fynd

Mae coedwigoedd chwedlonol Cymru yn barod i groesawu 160 o griwiau i Rali Cymru GB, rownd 13eg a'r olaf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd FIA 2014.

Gan adeiladu ar lwyddiant ysgubol y llynedd, mae'r rali eleni yn cynnwys tri diwrnod o gystadlu ychydig yn fwy cryno. Mae'n cynnwys 23 cymal cystadleuol - cyfanswm o 191 milltir – a phob un yn rhedeg yn erbyn y cloc ar gymysgedd o lwybrau coedwig graean traddodiadol a ffyrdd parcdir a fydd yn boblogaidd gyda'r cefnogwyr.

Ar ôl y Seremoni Agoriadol ddisglair yn Stadiwm Eirias, Bae Colwyn ar nos Iau , mae'r criwiau dewr am wynebu marathon yng nghanolbarth Cymru ar ddydd Gwener. Bydd cymalau yr ail ddiwrnod yn agosach at y Parc Gwasanaeth yng Nglannau Dyfrdwy a fydd yn cynnwys y Gwyliau RallyFests yng Nghastell y Waun ar y dydd Sadwrn a Pharc Cinmel ar y dydd Sul . Bydd yr enillwyr haeddiannol yn cael eu coroni ar Mostyn Street yn Llandudno ar brynhawn Sul.

Mae teitl Pencampwr y Byd eisioes wedi ei phenderfynu gyda Sébastien Ogier yn cipio teitlau Byd cefn-wrth-gefn; y Ffrancwr dawnus fydd yr un i'w guro ar ol ennill y llynedd. Ond nid Ogier yw'r unig enillydd Rali Cymru GB a fydd yn targedu llwyddiant pellach. Mae ei bartner yn VW Motorsport - Jari - Matti Latvala ac M-Sport Mikko Hirvonen eisioes wedi codi'r Tlws felly mi fyddan nhw yn wrthwynebiad caled. Ond fydd gan Hirvonen gymhelliant ychwanegol, mae e newydd gyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp a bydd e am adael ar nodyn uchel.

'Sdim gyrrwr Prydeinig wedi ennill y digwyddiad ers i'r diweddar Richard Burns gwblhau'r hat-tric o fuddugoliaethau yn ôl yn 2000, ond gydag Elfyn Evans a Kris Meeke ymhlith y blaen-rhedwyr y tymor hwn, efallai na fydd buddugoliaeth gartref enwog arall mor bell i ffwrdd.

Hefyd yng nghanol brwydro'r gystadleuaeth, mae tîm Moduro Hyundai yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar Rali Cymru GB gyda'i prif yrrwr Thierry Neuville eisoes wedi gwneud ei farc trwy ennill yn yr Almaen.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?