Fe goronodd Bencampwr newydd Rali'r Byd Sebastien Ogier Pencampwr ei dymor mewn steil gyda buddugoliaeth yn Rali Cymru Prydain Fawr
Gorffennodd y Ffrancwr ei dymor anhygoel gyda pherfformiad dosbarth meistr arall drwy gydol penwythnos Rali Cymru GB gan gwblhau'r tridiau yn 37.6 eiliad clir o'i wrthwynebydd agosaf, y Ffin Mikko Hirvonen. Ar ol dechrau 163 o raliau ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, 15 buddugoliaeth, 69 o weithiau ar y podiwm ac ail bedair gwaith yn y Bencampwriaeth, fe wnaeth y gyrrwr poblogaidd ymddeol o'r gamp yn y Seremoni Wobrwyo yn Llandudno .
Meddai Ogier : "Rwyf wrth fy modd gyda'r buddugoliaeth hon - dyna oedd y targed.
"Fe ddechreuon ni fynd amdani yn syth ar y dydd Gwener, ar ôl hynny, rheoli'r sefyllfa oedd y nod, ond gan fod hon yn Rali Cymru GB draddodiaol âg amodau anodd dros y tri diwrnod, do'n i byth yn gallu ymlacio .
"Bu'm rhaid i mi ymladd fy hun ychydig, oherwydd hyd yn oed gyda mantais da , mae'n dal yn bell o fod yn hawdd ac mae'n allweddol osgoi'r holl beryglon posibl. Does dim amheuaeth mai dyma'r ffordd orau i orffen y tymor. "
Yn ychwanegol at fuddugoliaeth syfrdanol y gyrrwr 30-mlwydd -oed, fe serenodd y ffefryn lleol Elfyn Evans.
Fe orffennodd Evans yn bumed sefyllfa gref, gan barhau ei berfformiad da yn ystod ail hanner y tymor.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf y gyrrwr ifanc o Ddinas Mawddwy yn y digwyddiad yma mewn car Rali'r Byd, ond er hynny, fe gwblhaodd pob un cymal yn y saith uchaf trwy gydol y gystadleuaeth ac yn raddol, fe gyflymodd gan fod yr ail ail gyflymaf ar gymal 20, yn ogystal â phostio triawd o bedwerydd amser cyflymaf ar y diwrnod olaf.
"Ar ddechrau'r digwyddiad, byddem yn sicr wedi cymryd y canlyniad hwn" meddai Evans .
"Mae'r perfformiad yn gyffredinol dros y penwythnos wedi bod yn eithaf cryf, ond roedd rhannau lle gallem fod wedi bod yn well.
"Mae eleni wedi bod yn ddechreuad cadarn i fy ngyrfa yn y WRC - ychydig i fyny-a-lawr yn sicr, ond mae gennym fanc ardderchog o brofiad i adeiladu arno yn y dyfodol.
"Y flwyddyn nesaf fydd yr un mwyaf pwysig i mi mewn gwirionedd, ar ol profi ein bod yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf . "
Roedd yna Gymry arall wrthi'n dathlu hefyd, yn y WRC2 fe gollodd Tom Cave safle ar y podiwm i orffen yn bedwerydd a hynny tu ol ir enillydd dosbarth Jari Ketomaa. Er iddo beidio a chofrestru yn y Bencampwriaeth hon, fe syfrdanodd Osian ei gyd- gystadleuwyr i sicrhau safle o fewn yr 20 uchaf ar Rali Cymru GB.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?