S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ralio yn Dychwelyd

Mae Ralio yn ol am dymor arall a pha well le i ddechrau'r gyfres newydd na gyda'r eiconig Rali Monte Carlo a rownd gynta Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Hon fydd gornest gynta gyrwyr gorau'r Byd yn 2015 wrth iddyn nhw fynd ati i daclo'r 13 rownd o gwmpas y bydysawd eleni.

Ond penwythnos yma, un o raliau enwoca ac un o'r anodda i'w meistroli yn y calendr sy'n eu gwynebu, a gyda thabl y gyrwyr nol i ddim mae'n gaddo i fod yn dipyn o frwydr wrth ir gyrwyr a'r timau fynd ati i ralio'r 350 o gilometrau gan gynnwys yr enwog Col de Turini.

Yno i ddilyn y cyfan, fel yr arfer, bydd Ralio yn dod ag holl uchafbwyntiau'r 4 diwrnod o gystadlu a 15 cymal y rali heriol hon mewn dwy raglen arbennig. Ar y 25ain o Ionawr (Ddydd Sul) fel rhan o'r rhaglen Clwb, mi fydd 'na gyfle i ddilyn y cystadlu yn ogystal a gweld y cymal cyffro wrth iddi ddigwydd. Wythnos yn hwyrach ar y 1af o Chwefror, mi fydd 'na raglen estynedig yn dilyn uchafbwyntiau'r rali lle cawn hefyd glywed gan y gyrwyr fydd wrthi yn ystod y cystadlu.

Ochr yn ochr a gyrwyr gorau'r Byd, mi fydd y Cymro Elfyn Evans wrthi yn y Ford Fiesta, a hynny yn ei ail dymor ar y lefel ucha' gydag M-Sport. Fe orffennodd y gwr 26 oed yn 8fed y llynedd yn y Bencampwriaeth, ac eleni mae rhai o enwau mawr y gamp yn darogan mai 2015 fydd y flwyddyn lle y gwelwn ni fab Gwyndaf Evans ar y podiwm yn chwifio baner Cymru. Llynedd fe orffennodd yn 6ed gwych yn Monaco a hynny ar ei rali gynta mewn car rali'r Byd, felly mae hi'n argoeli'n dda iawn iddo?

Gyrrwr arall a fydd yn dal y sylw yn Monte, fydd Cyn-Bencampwr y Byd 9 gwaith Sebastien Loeb. Mae'r meistr yn dychwelyd i'r ffau'r llewod am un tro arall yn y Citroen, ar ol ymddeol 14 mis yn ol. A welwn ni fe'n cipio'i 8fed buddugoliaeth eleni? Wel, mi fydd Elfyn, Pencampwr y Byd Sebastien Ogier, Jari Matti Latvala ac eraill yn awyddus i roi stop ar hynny.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?