Cafodd Elfyn Evans ddechrau addawol i Bencampwriaeth Rali'r Byd 2015 yn Rali Monte Carlo - y penwythnos hwn. Er gwaethaf rhywfaint o anffawd ar ddiwrnod olaf ond un y gystadleuaeth, roedd tîm M - Sport wedi ei annog gan gyflymder, potensial, dyfalbarhad ac agwedd o beidio rhoi fyny Elfyn a'i bartner Ott Tänak .
Gorffennodd Evans a'i gyd - yrrwr Daniel Barritt y rali yn seithfed solet ond gallai'r canlyniad wedi bod yn llawer gwell. Roedd y Cymro yn bumed cryf - ac yn cwrso'r pedwerydd safle - pan glipiodd wal drwy'r cymal Prunieres - Embrun (C11) a difrodi hongiad gefn ei Ford Fiesta RS WRC. Yn un i beidio rhoi'r ffidil yn y to, fe aeth e a Dan ati i ddyfeisio atgyweiriad dros dro a lwyddodd i osgoi ymddeoliad a'u cadw nhw yn y frwydr.
Cyn y digwyddiad dywedodd Evans ei fod am gynyddu ei gyflymder ar bob un o 13 rownd y bencampwriaeth eleni; a hyd yn hyn mae'n argoeli'n dda iddo. Efallai roedd gan y Cymro ddiffyg profiad ar y rali hynod anodd hon, ond fe lwyddodd i oresgyn hynny - gan brofi fod ganddo'r gallu i herio'r gorau yn y gamp gyda thrydydd amser cyflymaf drwy "La Salle en Beaumont - Corfflu 1 " (C3) yn ogystal â nifer o rhaniadau ('splits') cyflymaf.
Efallai y bu rhai siomedigaethau i'r tîm y penwythnos hwn, ond mae'r potensial yn glir i'w weld. Mae gan Evans a Tänak gyflymder naturiol, sgiliau a chymeriad i gynhyrchu tymor llwyddiannus i M-Sport; ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer y rowndiau sydd i ddod.
Meddai Elfyn :
"Mae 'na deimlad o 'be alla'i fod' ar ddiwedd y digwyddiad hwn. Mae'r potensial yn bendant yno i wthio mwy, ond roedd un neu ddau o gamgymeriadau gwirion ar fy rhan - un ohonynt yn arbennig - yn hynod o gostus . Fe wnaethom ni ddewis teiars da iawn drwy gydol y penwythnos, ond rhai oedd ddim cystal, felly mae yna bethau i ddysgu."
"Ar y cyfan mae'r cyflymder wedi bod yn dda ac mae hynny'n newyddion positif a chadarnhaol iawn i ni - newyddion y gallwn eu cymryd gyda ni wedi'r penwythnos hwn. Gallwn hefyd weld lle rydym yn mynd o'i le sy'n bwysig ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl a chael un cyfle arall ar y rali y flwyddyn nesaf."
Meddai Pennaeth M-Sport, Malcolm Wilson OBE:
"Nid yw'r canlyniad yr hyn y gallai fod wedi bod, ond mae Elfyn ac Ott wedi creu argraff fawr arna'i y penwythnos hwn. Ro'n ni'n rhedeg mor uchel a'r trydydd a'r pedwerydd safle ac mae'n deg i'w ddweud nad oeddwn ni'n disgwyl fod yn y sefyllfa honno. Mae ganddynt y cyflymder, ond mae ganddynt hefyd yr ewyllys a'r penderfyniad i lwyddo. Ni fyddant yn rhoi'r gorau iddi a dyna beth fydd yn eu helpu i fynd yn bell. Rhaid dweud bod y tîm cyfan wedi ei annog gan y potensial enfawr mae'r ddau wedi eu dangos ."