Anfon fideos i Stwnsh Sadwrn!
Wyt ti wedi diflasu? Eisiau rhwybeth I'w wneud? Wyt ti'n gallu rapio? Wel dyma'r her berffaith i ti, dysgu ein rap newydd… Y Rap Golchi Dwylo!
Mae'n syml!... dysga'r rap… ffilmia'r rap… danfona'r rap i Stwnsh Sadwrn! Hawdd!
Gei di fod mor greadigol a ti eisiau! Beth am ddefnyddio props? Beth am gael pawb yn y tŷ i ymuno – hyd yn oed yr anifeiliad anwes?!
Danfona dy fideo i ni nawr, a falle bydd dy rap di i'w weld ar Stwnsh Sadwrn yn fuan!
Fideo Carioci Owain
Defnyddia'r fideo yma i ddysgu'r rap
Fideo Carioci
Defnyddia'r fideo yma i recordio'r rap!
Mae'r ffurflen hon yn cadarnhau'r termau ynglŷn â chaniatáu cynnwys y llun neu fideo ("Y Deunydd").
1. Rydych chi'n rhoi i Boom Cymru neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan Boom Cymru, drwydded an-ecsgliwsif am byth i recordio, gwneud copi, golygu, atgynhyrchu, a darlledu holl, neu ran o'r Deunydd ar gyfer cynhyrchu, hyrwyddo, ymelwa'n fyd eang am gyfnod cyflawn yr hawlfraint yn y Deunydd ynghyd â phob adnewyddiad ac estyniad mewn unrhyw fodd sy'n hysbys nawr neu a ddyfeisir yn y dyfodol.
2. Rydych yn yn gwarantu ac yn cadarnhau eich bod yn rhydd a heb gyfyngiad i allu ymrwymo i'r telerau hyn ac i roi'r holl hawliau y cyfeiriwyd atynt ym mhwynt 1, a thrwy ymarfer yr hawliau yma ni fydd (a) yn tremasu ar unrhyw hawlfraint, neu unrhyw hawliau personol neu eiddo sy'n perthyn i unrhyw berson arall neu yn dor gytundeb neu dorri rheolau, (b) rhoi hawl i berson arall hawlio taliad gan Boom Cymru neu (c) unrhyw berson sydd yn ymddangos yn y Deunydd sydd wedi rhoi ei ganiatâd er mwyn galluogi Boom Cymru i ymelwa mewn unrhyw fodd neu unrhyw gyfrwng yn fyd eang ac yng nghyfnod cyflawn yr hawlfraint.
3. Rydych yn indemnio'r Cwmni yn erbyn pob achos, cyfreitha, cost, iawndal, colled a hawliad (gan gynnwys heb gyfyngiad, costau cyfreithiol ac unrhyw gostau a dalwyd o dderbyn cyngor Cwnsel) a allai godi yn sgil y ffaith eich bod wedi torri neu fethu a chadw at y gwarantiadau neu'r ymrwymiadau a gynhwysir yn y ffurflen hon.
4. Am ragor o wybodaeth cyfeiriwn at polisi preifatrwydd Boom Cymru
5. Rheolir y Termau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac fe'i dehonglir yn unol â'r gyfraith honno.